"Wele saith stori a digrifwch melys yn fwrlwm trwyddynt, a'r cymeriadau yn rhai nad anghofir mohonynt yn rhwydd, storiau y gellir troi iddynt drachefn a thrachefn, i chwerthin eto am ben helbulon pobl Llanaraf." T Rowland Hughes Enillodd W J Griffith wobr ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig am ei stori Eos y Pentan yn 1924, cyhoeddwyd Yr Hen Siandri yn Y Genedl yn 1925 ac fe ymddangosodd stori newydd yn rheolaidd ganddo hyd Nadolig 1930. Casglwyd y storiau hyn at ei gilydd gan T Rowland Hughes ac fe'u cyhoeddwyd yn 1938 dan y teitl Storiau'r Henllys Fawr. Bu farw W J Griffith cyn i'r gyfrol...
"Wele saith stori a digrifwch melys yn fwrlwm trwyddynt, a'r cymeriadau yn rhai nad anghofir mohonynt yn rhwydd, storiau y gellir troi iddynt drachefn...