Dyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i'r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau'r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau'r Credo, `Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear'? Ac a fedrant goleddu'r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy'r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu'r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli...
Dyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut ...